Yn Baileys a’u Partneriaid, rydym yn deall y gall prosiectau isadeiledd mawr, fel gwaith y Grid Cenedlaethol i atgyfnerthu’r rhwydwaith o Bentir i Drawsfynydd, godi pryderon sylweddol i berchnogion tir gwledig, ffermwyr a busnesau ar draws Gogledd Cymru. Gyda degawdau o brofiad ymarferol ac fel asiant wrth drafod hawliau tir, sicrhau iawndal teg ac amddiffyn buddiannau gwledig, mae ein tîm yn barod i gefnogi unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan y gwaith uwchraddio mawr hwn i’r rhwydwaith trydan yng Ngogledd Cymru.
Yn gryno, mae’r Grid Cenedlaethol yn cynnig atgyfnerthu’r rhwydwaith trydan rhwng Pentir a Thrawsfynydd (gweler y cynllun arfaethedig) i ganiatau ar gyfer y galw cynyddol a chefnogi datblygiadau ynni adnewyddadwy. Mae’r cynllun yn cynnwys uwchraddio rhannau o’r ceblau dan-ddaear, gosod ceblau newydd, adeiladu is-orsaf newydd a’r isadeiledd cysylltiedig.
Gan weithredu ar ran cleientiaid presennol, rydym wedi dechrau cael Hysbysiadau ffurfiol a dogfennau Penawdau’r Telerau gan Fisher German (Asiant y Grid Cenedlaethol) i ddechrau’r broses o drafod hawliau tir gwirfoddol ar gyfer trwyddedau i greu arolygon, compownd dros dro, llwybrau mynediad ac yn y pen draw, opsiynau ar gyfer hawddfreintiau parhaol neu brynu tir.
Er bod y dogfennau hyn yn ymddangos yn syml, yn aml maent yn cynnwys telerau a allai gyfyngu ar ddefnydd y tir neu danbrisio eich buddiannau os na fyddant yn cael eu hadolygu a’u trafod yn ofalus. Mae Baileys a’u Partneriaid wedi hen arfer trafod hawliau tir ar gyfer eich tir (sy’n benodol i leiniau o dir) a thelerau masnachol cysylltiedig y gellir eu cyflawni. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chyfreithwyr a chyfrifyddion i gael y canlyniad gorau bosib i chi a’ch tir.
Mae gennym hanes cadarn o weithredu ar ran perchnogion tir preifat, ystadau gwledig a busnesau ffermio wrth ymateb i gynlluniau isadeiledd cenedlaethol. Ein gwaith ni yw sicrhau eich bod yn llwyr ddeall eich hawliau a goblygiadau’r dogfennau a gyflwynir. Byddwn yn gwrando ar eich pryderon penodol ac yn gwneud yn siwr eu bod yn cael eu hystyried wrth drafod ar eich rhan. Byddwn yn gweithio i sicrhau iawndal teg am y tir sy’n cael ei effeithio a bod hyn yn ystyried y tarfu ac unrhyw effeithiau hirdymor. Byddwn yn adolygu’r telerau mynediad a sicrhau bod mesurau adfer yn gadarn ac ymarferol.
Rydym yn gweithredu o ddealltwriaeth drylwyr o reoli tir gwledig a chyfraith isadeiledd, gan ddod ag eglurder a chyngor strategol i’r hyn sy’n gallu bod yn broses anodd. Bydd y Grid Cenedlaethol yn talu ein ffioedd proffesiynol, felly ni fydd unrhyw gostau i chi am ddefnyddio ein gwasanaethau.
Os ydych wedi cael gohebiaeth gan y Grid Cenedlaethol, neu os yw eich tir o fewn y llwybr arfaethedig o Bentir i Drawsfynydd, mae croeso i chi gysylltu â Iolo Ellis neu Jodie Pritchard am sgwrs gyfrinachol, heb unrhyw rwymedigaeth. Mae cysylltu gyda ni’n gynnar yn golygu y gallwn roi strategaeth ragweithiol ar waith cyn rhoi unrhyw hawliau neu cyn i unrhyw gamau gael eu cymryd. Mae manylion cyswllt Iolo a Jodie ar gael ar ein gwefan Baileys and Partners: Cysylltu gyda ni neu ffoniwch y swyddfa ar 01341 241700 neu anfon e-bost at: enquiries@baileysandpartners.co.uk