Troi anghydfodau tir yn gytundebau, nid brwydrau

Mae Baileys & Partners yn un o’r prif gwmnïau ym maes y diwydiant ynni, gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant. O gynlluniau ynni dŵr bychan i rai o’r parciau ynni mwyaf (sy’n cynnwys gwynt, solar a BESS) mae gennym brofiad o’r ystod lawn o dechnolegau o bob maint yn y sector difyr hwn. A’r hyn sy’n ein rhoi ar y blaen yw ein profiad mewn hydrogen gwyrdd, ynni llanw a threfniadau gwifren preifat ar gyfer defnyddwyr ynni mawr fel Canolfannau Data.

Mae Baileys & Partners yn cynorthwyo ym mhob agwedd ar ddatrys anghydfodau tir ac eiddo ac yn gwbl rugl yn y Gymraeg neu’r Saesneg. O ddarparu cymorth proffesiynol ar wahân mewn cyfryngu anffurfiol, neu gynrychioli ein cleientiaid yn llawn mewn Cyflafareddu, mae gan ein tîm brofiad a hyfforddiant sylweddol i ddiwallu eich holl anghenion datrys anghydfodau tir ac eiddo.

A large array of solar panels is installed on a grassy hillside under a partly cloudy sky with sunlight streaming through.

Ystod gynhwysfawr o wasanaethau datrys anghydfodau

  • Negodi.
  • Cyfryngu.
  • Cymrodeddu.
  • Penderfyniad arbenigol.
  • Tystio arbenigol.

Darparu atebion o ansawdd uchel drwy dimau datrys anghydfodau arbenigol

Mae gan Baileys & Partners brofiad a hyfforddiant heb eu hail mewn datrys anghydfodau tir ac eiddo o fewn y diwydiant ynni. Mae gennym hefyd rwydwaith rhagorol o Gyfreithwyr a Bargyfreithwyr uchel eu parch i sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor a’r gynrychiolaeth orau.

Mae Edmund Bailey yn Gyfryngwr masnachol sifil cymwysedig RICS ac mae’n aelod o banel Datrys Anghydfodau CAAV gyda phrofiad mewn anghydfodau tir ac eiddo sy’n ymwneud ag ynni ac adeiladu. Mae o wedi ymddangos fel tyst arbenigol yn yr Uchel Lys.

Three men stand by a glass railing on an indoor balcony, looking down into the modern office building’s atrium.

Ynglŷn â

Cwrdd â'r tîm datrys anghydfodau

Jodie Pritchard

Jodie Pritchard - BSc (Anrh) MRICS FAAV

Cyfarwyddwr Cyswllt

Astudiodd Jodie ym Mhrifysgol Harper Adams a chymhwysodd fel Syrfëwr Siartredig Gwledig yn 2005, mae hi’n gymrawd o’r CAAV ac yn Brisiwr Cofrestredig RICS. Mae… Darllen mwy

jodie@baileysandpartners.co.uk 07538040384