Y briff

Mae Ynni Padarn Peris yn gynllun ynni adnewyddadwy cynaliadwy sy’n defnyddio pŵer dŵr i greu trydan. Defnyddir yr ynni gan y gymuned leol, gydag unrhyw beth sydd dros ben yn cael ei werthu i’r Grid Cenedlaethol.

Fe allwch ddod o hyd iddo ar hyd yr Afon Goch yn Llanberis – yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri yma yng Ngogledd Cymru. Ganwyd y cynllun 55kW allan o awydd y gymuned leol i ddefnyddio ei hadnoddau lleol naturiol (Ia, y glaw di-baid) i gynhyrchu incwm a fyddai’n mynd yn ôl i bobl leol.

Yr uchelgais y tu ôl i’r cynllun oedd creu manteision economaidd a chymdeithasol a fyddai’n aros yn y gymuned leol. Cynllun sy’n ‘diferu am i lawr’, gallech chi ddweud.

Ariannwyd Ynni Padarn Peris gan gyfranddalwyr lleol – trigolion a theuluoedd Llanberis – a brynodd ran yn y cynllun gyda buddsoddiad o leiaf £250. Ar ôl 3 blynedd o waith, dechreuodd y cynllun hydro gynhyrchu ynni o’r diwedd ym mis Mawrth 2017.

Prif amcan a chyfyngiadau

Mae’r cynllun hydro ei hun yn eiddo i’r gymuned leol ac yn cael ei weithredu ganddi, ond mae wedi’i leoli ar dir preifat.

Roedd ei gyflawniad llwyddiannus yn ddibynnol ar gael caniatâd gan dri thirfeddiannwr lleol, ac mae un ohonynt yn berchen ar fusnes hamdden – a datblygu a negodi telerau a oedd yn dderbyniol i bob parti.

Yn debyg i lawer o brosiectau, roedd amser yn gyfyngiad hollbwysig ar gyfer gwahanol agweddau ar y prosiect felly roedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb o amgylch byrddau cegin yn bwysig i gwblhau materion.

Camau gweithredu a chanlyniad

Gan weithredu ar ran Ynni Padarn Peris, ein tasg ni oedd rheoli a hwyluso pob agwedd ar y trafodaethau rhwng y grŵp cymunedol a’r tirfeddianwyr – gan ystyried pethau fel yr hyn y mae’r trwyddedu a’r cynllunio yn ei ganiatáu ac yna trosi hyn yn ddogfen sy’n nodi’r rhent, cynigion cyfranddaliadau, y tymor a’r indemniadau i gyflawni prosiect llwyddiannus a oedd yn barod i’w adeiladu ar gyfer y gymuned yn y pen draw.

Wrth gwrs, roedd yn hanfodol cytuno ar delerau a oedd yr un mor dderbyniol i bob parti ond a fyddai’n caniatáu i’r cynllun ddod yn fusnes hyfyw.

Roedd angen i’r brydles fod yn ddigon hir i dalu am y buddsoddiad cychwynnol, er enghraifft, ond nid ‘am byth’. Roedd rhaid i seilwaith i gefnogi’r cynllun fod wedi’i leoli gerllaw ac yn hygyrch, ond ni allai niweidio’r busnes hamdden sefydledig na bod yn rhwystr i’r ffermwr.

Roedd cyfryngu anffurfiol a digon o brofiad i ddeall pryderon o bob ochr yn allweddol i gyflawniad llwyddiannus y prosiect hwn. Byddai pob un o’r partïon dan sylw yn gymdogion am amser hir iawn, felly roedd yn hanfodol bod pawb yn teimlo eu bod yn cael bargen deg.

Felly beth oedd y canlyniad – Fe wnaethon ni negodi prydles 40 mlynedd yn llwyddiannus ar gyfer Ynni Padarn Peris. Bydd hyn yn rhoi amser i gyfranddalwyr y gymuned adennill eu buddsoddiad cychwynnol a chynhyrchu elw yn y blynyddoedd i ddod. Yn y pen draw, fe wnaeth y tirfeddianwyr gytuno i’r cynllun, ac ar ben hynny, fe wnaethon nhw gytuno i brynu cyfranddaliadau ynddo.

Math o brosiect

Tir ac eiddo, Ynni

Cleient

Ynni Padarn Peris

Amserlen

2014-2017

Lleoliad

Llanberis, Gogledd Cymru

Chwilio am gyngor?

Siaradwch â’n tîm

Rydym yn bobl go iawn sy’n frwdfrydig am yr hyn rydyn ni'n ei wneud — beth am gael sgwrs?

Mae menyw â gwallt melyn a sbectol yn sefyll yn gwenu mewn cae o laswellt tal ar ddiwrnod heulog, yn gwisgo ffrog batrymog. Mae coed ac awyr las glir yn y cefndir.