Fel cwmni RICS (Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig) rheoleiddiedig, mae gan Baileys and Partners Limited (Yn masnachu fel Baileys and Partners) Weithdrefn Ymdrin â Chwynion (CHP) ar waith, sy’n bodloni’r gofynion rheoleiddio. Yn yr hysbysiad hwn, mae cyfeiriadau at ‘ni’, ‘ninnau’ neu ‘ein’ yn golygu Baileys and Partners.

Rydym yn cymryd unrhyw gwynion sydd gennych mewn perthynas â’r Gwasanaethau a ddarparwn o ddifrif iawn. Yn y lle cyntaf, byddem yn eich annog i ymgysylltu â’r aelod staff dan sylw, byddant yn ymdrechu i gywiro’ch cwyn. Os na allwch ddatrys eich cwyn yn ddigonol gyda’r aelod staff rydych wedi bod yn delio ag ef, dilynwch y weithdrefn CHP dau gam isod:

Mae cam un o’r CHP yn rhoi cyfle i’n cwmni adolygu ac ystyried eich cwyn yn llawn. Bydd ein cwmni’n ceisio datrys eich cwyn er boddhad i chi. Os nad ydych yn hapus â’n hymateb, byddwch yn cael cyfle i fynd â’ch cwyn i gam dau.

Mae cam dau yn rhoi cyfle i chi, y cleient, i gael eich cwyn wedi’i hadolygu a’i hystyried gan ddarparwr gwneud iawn annibynnol, wedi’i gymeradwyo gan RICS.

Cam Un

Os ydych chi wedi siarad â ni am eich cwyn, nodwch fanylion eich cwyn yn ysgrifenedig. Gofynnwn i chi gyflwyno eich cwyn yn ysgrifenedig er mwyn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth lawn o’r rhesymau dros eich cwyn. Anfonwch eich cwyn ysgrifenedig wedi’i marcio i:

Baileys and Partners
Tyddyn Du
Llanbedr
Gwynedd
LL45 2LR
Ffôn: 01341 241700
Ebost: helen@baileysandpartners.co.uk
Gwefan: www.baileysandpartners.co.uk

Byddwn yn ystyried eich cwyn cyn gynted â phosibl ac yn cydnabod derbyn eich cwyn o fewn 7 diwrnod. Byddwn yn ymdrechu i ymateb cyn gynted â phosibl. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi os na allwn ymateb i’ch cwyn yn llawn o fewn 28 diwrnod i’w derbyn.

Cam Dau

Os ydych chi’n anfodlon â’n hymateb i’ch cwyn neu os nad ydym ni’n gallu ei datrys yn ddigonol fel arall, yna mae gennych chi hawl i godi’ch cwyn gyda sefydliad annibynnol (wedi’i gymeradwyo gan RICS).

Ar gyfer cwynion am wasanaethau proffesiynol cyffredinol

Cyfeiriwch gwynion at:

Centre for Effective Dispute Resolution (CEDR)
100 St Paul’s Churchyard
London
EC4M 8BU
Ffôn: 020 7536 6000
Ebost: info@cedr.com
Gwefan: www.cedr.com

Ar gyfer cwynion yn ymwneud ag eiddo

Cyfeiriwch gwynion at:

The Property Ombudsman (TPOS)
Unit 159756
PO Box 7169
Poole
BH15 9EL
Ffôn: Consumers – 01722 333 306. Businesses – 01722 335 458
Gwefan: www.tpos.co.uk