Cyfarfod â’r tîm
non@baileysandpartners.co.uk

Non Evans
Syrfëwr dan Hyfforddiant
Mae Non yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Harper Adams, yn astudio Menter Wledig a Rheoli Tir. Mae ar ei blwyddyn ar leoliad ar hyn o bryd ac mae wedi ymuno gyda Baileys and Partners i gael blas o’r ystod amrywiol o waith a wneir gan y cwmni. Yn ystod ei lleoliad, mae Non wedi dod yn aelod o Gymdeithas Genedlaethol Gwerthwyr Tai, gan ddatblygu ei gwybodaeth broffesiynol ac arbenigedd. Heblaw am astudio, mae hi’n mwynhau chwarae rygbi a chanu’r piano, ffermio gyda’i phartner a chymdeithasu gyda ffrindiau.