Pam penodi asiant prynu?

Mae’r asiant gwerthu yn gweithredu ar ran y gwerthwr. Mae asiant prynu yn gweithredu ar eich rhan chi.

Ar gyfer caffael eiddo neu fuddsoddiad sylweddol, mae cynrychiolaeth brofiadol yn rhoi persbectif annibynnol ar y cyfle a’ch sefyllfa negodi.

Nid dod o hyd i eiddo yn unig yw ein gwaith ni. Rydym yn eich helpu i ddeall beth rydych chi’n ei brynu, y cyfleoedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig, beth mae tystiolaeth y farchnad yn ei ddangos a’r ffordd orau o brynu.

Ar gyfer cleientiaid nad oes ganddynt yr amser na’r wybodaeth leol i gynnal chwiliad manwl eu hunain, gallwn hefyd weithredu fel eu cynrychiolydd ar lawr gwlad, gan ddewis a dethol cyfleoedd cyn argymell y rhai sy’n werth eu hystyried ymhellach.

A rural fence with a grassy field behind

Mae ein gwasanaeth yn cynnwys:

• Sefydlu eich briff caffael, amcanion a chyllideb
• Chwilio am eiddo addas a chyfleoedd buddsoddi
• Monitro cyfleoedd sy’n cael eu marchnata’n agored
• Nodi cyfleoedd posibl nad ydynt ar y farchnad ar hyn o bryd
• Mynd at berchnogion eiddo a thir yn uniongyrchol ac yn gyfrinachol
• Archwilio ac asesu eiddo posibl
• Adolygu tystiolaeth berthnasol gymharol a’r farchnad
• Nodi risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig ag eiddo
• Cynghori ar strategaeth gynnig, amodau a sefyllfa negodi
• Trafod gyda gwerthwyr ac asiantau gwerthu ar eich rhan
• Cysylltu â chyfreithwyr, cyfrifwyr a chynghorwyr proffesiynol eraill
• Cefnogi’r pryniant hyd at ei gwblhau

Pam dewis Baileys & Partners

Ein cryfder yw cyfuno gwaith Asiantaeth â’r arbenigedd proffesiynol ehangach sydd ar gael yng nghwmni Baileys & Partners.

Mae gan ein Syrfewyr Siartredig a gweithwyr proffesiynol eiddo brofiad ar draws amaethyddiaeth, eiddo gwledig, prisio, landlord a thenantiaid, hamdden, cynllunio, ynni adnewyddadwy, telathrebu a seilwaith.

Mae’r arbenigedd ehangach hwn yn arbennig o werthfawr pan fydd pryniant yn cynnwys mwy na dim ond tir ac adeiladau.

Rydym yn darparu gwasanaeth personol, cyfrinachol ac ymarferol, gyda chyngor clir a phragmatig sy’n canolbwyntio ar warchod eich buddiannau a’ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eiddo.

The Baileys team chat outside a modern property

Ynglŷn â

Cwrdd â'r tîm caffael a phrynu

Non Evans

Non Evans

Syrfëwr dan Hyfforddiant

Mae Non yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Harper Adams, yn astudio Menter Wledig a Rheoli Tir. Mae ar ei blwyddyn ar leoliad ar hyn o bryd… Darllen mwy

non@baileysandpartners.co.uk