
Blog
Baileys: y tu ôl i’r brand
Y tu ôl i frand newydd Baileys: gwasanaethau asiantaeth ac arwerthiant newydd, arbenigedd estynedig, seminarau, a chefnogaeth barhaus i gleientiaid ledled Cymru.
Ebrill 2026
Mewnwelediadau


Drwy gydol fy ngyrfa yn y maes eiddo, rwyf wedi bod a daliadau syml: os ydych yn cynghori cleientiaid ynghylch yr hyn sydd, yn aml, yr ased mwyaf gwerthfawr ganddynt, dylech fod â chymwysterau priodol, yn atebol yn broffesiynol, ac yn ymrwymedig i gynnal safonau uchel.
Mae’r egwyddor honno wedi llywio’r ffordd rydym yn gweithredu yn Baileys & Partners. Mae ein hadran asiantaeth yn cael ei harwain gan Syrfewyr Siartredig, ac mae pob aelod o’r tîm naill ai’n gymwysedig yn broffesiynol neu’n gweithio tuag at gymhwyster. Rydym bob amser wedi credu nad mantais farchnata yw safonau proffesiynol, ond yn hytrach ma’i dyma’r lleiafswm y dylai cleientiaid ei ddisgwyl.
Dyna pam mae ymateb diweddar Llywodraeth y DU i’w hymgynghoriad ar ddiwygio’r broses o brynu a gwerthu cartrefi yn ddatblygiad i’w groesawu.
Mae llawer o’r newidiadau, gan gynnwys gofynion cymwysterau sylfaenol, Cod Ymarfer ffurfiol a mwy o ddiogelwch i ddefnyddwyr, yn adlewyrchu safonau y gellir dadlau y dylent fod wedi’u cyflwyno flynyddoedd lawer yn ôl.
Ni Ddylai Safonau Proffesiynol Fod yn Ddewisol
Mae prynu neu gwerthu eiddo yn un o’r penderfyniadau ariannol mwyaf y bydd y rhan fwyaf o bobl byth yn eu gwneud. Eto i gyd, yn hanesyddol mae asiantaeth tai wedi gweithredu’n wahanol i lawer o broffesiynau eraill, heb unrhyw ofynion cymwysterau gorfodol ar gyfer y rhai sy’n ymuno â’r sector.
Er bod llawer o asiantau rhagorol yn gweithredu ledled y DU, bu hefyd amrywiad sylweddol mewn gwybodaeth dechnegol, profiad a safonau proffesiynol. Yn aml, nid oes gan ddefnyddwyr fawr o ffordd i wahaniaethu rhwng gweithwyr proffesiynol cymwys iawn a’r rhai sydd â hyfforddiant cyfyngedig.
Yn ein barn ni, nid yw hynny erioed wedi bod er budd gorau cleientiaid.
Dylai cymwysterau proffesiynol, hyfforddiant parhaus a chydymffurfio â safonau cydnabyddedig fod yn ddisgwyliad ar draws y diwydiant cyfan, nid rhywbeth a gynigir gan ran fach yn unig ohono.
Beth Sy’n Cael Ei Gynnig?
Nod diwygiadau’r Llywodraeth yw gwneud y broses yn fwy effeithlon a gwella hyder defnyddwyr drwy:
Gyda’i gilydd, mae’r cynigion hyn yn cynrychioli cam sylweddol tuag at sector eiddo mwy proffesiynol ac atebol.
Pam Mae Arbenigedd Hyd Yn Oed yn Bwysicach mewn Eiddo Gwledig
Mae cymhwysedd proffesiynol yn arbennig o bwysig wrth ymdrin ag eiddo gwledig.
Yn wahanol i lawer o werthu tai confesiynol, mae eiddo gwledig yn aml yn cynnwys amodau meddiannaeth amaethyddol, potensial datblygu, hawliau cyhoeddus a phreifat, hawliau hela a physgota, dynodiadau amgylcheddol, seilwaith ynni adnewyddadwy, tenantiaethau amaethyddol a chynlluniau rheoli tir.
Gall diffyg dealltwriaeth mewn unrhyw un o’r meysydd hyn effeithio’n sylweddol ar werth, marchnadwyedd a defnydd y dyfodol.
Mae angen cynghorwyr ar gleientiaid sy’n adnabod y materion hyn cyn iddynt droi’n broblemau, nid wedyn.
Mae’r Newidiadau Hyn yn Atgyfnerthu’r Hyn yr Ydym Eisoes yn Ei Gredu
Nid yw’r newidiadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ni ailystyried y ffordd rydym yn gweithredu yn Baileys & Partners.
Yn hytrach, maent yn atgyfnerthu’r egwyddorion sydd wedi llywio ein dull gweithredu o’r cychwyn: cymwysterau proffesiynol, arbenigedd technegol, atebolrwydd a chyngor clir.
Er y gall yr amserlen I gael y newidiadau yma yn weithredol fod yn ddibynnol ar newidiadau gwelidyddol ers yr cyhoeddiad yma, mae’r bwriad yn glir. Mae dyfodol asiantaeth eiddo yn gorwedd gyda gweithwyr proffesiynol cymwysedig sy’n darparu cyngor gwybodus a safon gyson uchel o wasanaeth.
Nid syniad yw hynny i’n tîm asiantaeth ni. Dyna’r safon yr ydym yn gweithredu yn unol â hi.
Mewnwelediadau