Ed

Gan Ed

Ionawr 2026

Amdano Ed

Amser hir yn y gwaith

Mae heddiw yn nodi carreg filltir gyffrous i Baileys & Partners.

Ar ôl cyfnod o ddatblygu gofalus y tu ôl i’r llenni, rydym yn falch o ddatgelu brand wedi’i adnewyddu, gwefan newydd, a chyfres estynedig o wasanaethau, pob un wedi’i gynllunio i adlewyrchu’n well pwy ydym ni heddiw a sut rydym yn cefnogi cleientiaid ar draws Cymru.

Efallai y byddwch hefyd yn sylwi arnom yn cyfeirio atom ein hunain fel Baileys yn amlach. Er bod ein henw llawn yn parhau i fod yn Baileys & Partners, ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid dibynadwy, mae’r talfyriad hwn yn adlewyrchu’r ffordd y mae llawer o’n cleientiaid eisoes yn ein hadnabod a’r gwasanaethau cynyddol y gallwn eu cynnig yn fewnol rwan.

Pam rwan

Mae Baileys wedi bod yn tyfu’n gyson ers peth amser, nid yn unig o ran maint, ond o ran cwmpas a chyrhaeddiad.

Mae ein sylfaen cleientiaid wedi ehangu, mae ein harbenigedd wedi dyfnhau, ac mae’r ystod o wasanaethau a ddarparwn wedi ehangu ymhell y tu hwnt i’r hyn a gynrychiolwyd yn llawn gan ein gwefan a’n brand blaenorol. Mae’r ail-lansio hwn yn dod â eglurder i’r esblygiad hwnnw, gan sicrhau bod ein hunaniaeth yn cyd-fynd â’r gwaith a gyflawnwn bob dydd.

Mae hefyd yn golygu profiad llyfnach a mwy deniadol i’n holl gleientiaid a phartneriaid, boed yn defnyddio ein gwefan i ddod o hyd i rywbeth neu’n ymgysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol.

Nid yw’n ymwneud â newid pwy ydym ni ond yn hytrach am ei fynegi’n gliriach.

Ystod ehangach o wasanaethau, o dan un to

Ochr yn ochr â’n gwasanaethau ymgynghori a phroffesiynol sefydledig, rydym wrth ein bodd yn lansio’n swyddogol:

  • Gwasanaethau asiantaeth, sy’n cwmpasu gwerthu a gosod
  • Gwasanaethau arwerthiant, sy’n darparu llwybr ychwanegol i’r farchnad ar gyfer eiddo, tir ac asedau addas

Mae’r gwasanaethau hyn wedi’u datblygu i ategu ein harbenigedd presennol, gan roi mwy o ddewis a phrofiad mwy di-dor i gleientiaid, p’un a ydych chi’n cynllunio ar gyfer y tymor hir neu’n ymateb i gyfle uniongyrchol.

Drwy ddod ag ymgynghori, asiantaeth ac arwerthiannau at eu gilydd, rydym yn gallu eich cefnogi trwy gylch bywyd llawn o benderfyniadau tir ac eiddo lle bynnag yr ydych yng Nghymru.

Cynyddu cyrhaeddiad ar draws Cymru

Er ein bod ni wedi gweithio ar draws Cymru erioed, mae ein cyrhaeddiad daearyddol wedi cynyddu yn 2025 ac mae disgwyl iddo barhau yn 2026. Rydym ni wrth ein bodd yn gallu cefnogi cleientiaid ar draws y wlad mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau gwledig ac eiddo. Wrth i’n tîm a’n gwasanaethau ehangu, felly hefyd mae ein gallu i gynnig mewnwelediad lleol cryf ochr yn ochr â chyngor strategol lle bynnag y mae ein cleientiaid ein hangen ni.

Mae’r twf hwn wedi bod yn fwriadol ac yn ystyriol, gan sicrhau ein bod ni’n cynnal perthnasoedd personol ac ymddiriedus gyda’n holl gleientiaid a’n partneriaid – rhywbeth y mae Baileys wedi bod yn adnabyddus amdano erioed.

Brand wedi’i adnewyddu a gwefan newydd

I gefnogi’r bennod nesaf hon, rydym wedi bod yn gweithio’n galed gydag asiantaeth arbenigol, Tropic, dros y chwe mis diwethaf i ddatblygu hunaniaeth brand sy’n adeiladu ar yr hyn sydd wedi dod o’r blaen ac yn rhoi rhywbeth i ni sy’n adlewyrchu ansawdd ein gwaith a’n dull o’i gyflawni.

Rydym hefyd wedi ailddatblygu ein gwefan i ddarparu ffordd hawdd i gleientiaid newydd a phresennol ymgysylltu â ni. Yn olaf, mae ein gwefan newydd yn galluogi lansio ein hasiantaeth, gan ddarparu ffordd amlwg o arddangos eich tir a’ch eiddo, yn ogystal â llwyfan arwerthiant ar-lein.

Mae’r wefan newydd yn dwyn ynghyd bopeth y mae Baileys yn ei gynnig mewn un lle, gan ei gwneud hi’n haws archwilio ac ymgysylltu â ni, ac mae wedi’i chynllunio i dyfu gyda ni, wrth i’r busnes barhau i esblygu.

Archwiliwch y wefan newydd i ddysgu mwy am ein gwasanaethau a chwrdd â’r tîm, neu dewch o hyd i ni ar gyfryngau cymdeithasol.

Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’n taith hyd yn hyn. Ni fyddem yma heboch chi ac rydym yn gyffrous i barhau i’ch cefnogi gydag eglurder, gofal ac arbenigedd, rwan ac i’r dyfodol.

Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol

  • Byddwch yn dechrau gweld ein brand newydd ar-lein ac ar ddeunyddiau printiedig o heddiw ymlaen.
  • Rwan fydd gennych fynediad hefyd at dîm ehangach a chynnig gwasanaeth estynedig, gan gynnwys gwasanaethau asiantaeth ac arwerthiant a lansir heddiw.
  • Mae ein gwasanaethau’n bellach yn ymestyn ar draws Cymru, gan sicrhau bod gennych yr arbenigedd perthnasol ond gyda phresenoldeb lleol lle bynnag y bydd ein hangen arnoch.

“Mae’r ail-frandio hwn a’r cynnig gwasanaeth cynyddol yn cryfhau ein cyrhaeddiad ar draws rhanbarth ehangach, gan ganiatáu inni gynnal y berthnasoedd agos â chleientiaid sydd wedi diffinio ein ffordd o weithio erioed.”

Ed Bailey, Cyfarwyddwr