Amy

Gan Amy

Awst 2026

Amdano Amy

Yn Baileys and Partners, rydym wrth ein bodd yn wynebu her – boed hynny wrth ymdrin â materion eiddo cymhleth neu, fel y digwyddodd, wrth lywio rhwyf drwy rwystrau gwyllt ar afon gyflym.

Roedd antur haf flynyddol ein tîm yn gymysgedd bythgofiadwy o heulwen, cystadleuaeth wefreiddiol, a digon o ddŵr. Ni allai’r tywydd fod wedi bod yn well: poeth, awyr las, a heulwen hyfryd trwy gydol y dydd.

Tanwydd, Gwisg Ffansi, a Gynnau Dŵr

Dechreuodd ein diwrnod yng nghaffi’r National Whitewater Centre, gyda phaned o goffi a bapiau bacwn blasus i roi tanwydd i ni at y diwrnod o’n blaenau. Doedd gennym ni ddim syniad, ar y pryd, fod ein cyfarwyddwr Ed eisoes wedi bod wrthi’n cynllunio gêm dorri’r iâ ar gyfer y bore.

Rhannwyd ni’n dimau ar gyfer her fyddai’n profi ein cyflymder, ein strategaeth, a, yn bwysicaf oll, ein steil. Y dasg? Gwisgo rhai o’r gwisgoedd mwyaf gwallgof y gellid eu dychmygu (meddyliwch fflamingos chwyddadwy anferth, bananas, mefus, a cheffylau chwyddadwy), rhedeg ar draws y cae mor steilus â phosib, a chipio tegan pwll nofio chwyddadwy. Ond roedd ‘na dro yn y gynffon – roedd y tîm arall wedi’u harfogi hyd at y dannedd â gynnau dŵr pwerus, yn barod i wlychu unrhyw un oedd yn ddigon dewr i fentro ras amdani.

Concro Afon Tryweryn

Wedi cynhesu’n barod (a sychu drachefn diolch i haul crasboeth yr haf), roedd hi’n amser troi at brif atyniad y dydd: rafftio dŵr gwyn ar hyd afon Tryweryn.

Roedd angen gwaith tîm o’r radd flaenaf i lywio’r rapidau cyflym. Bu digon o dasgu dŵr, gweiddi llawen, a chwerthin di-baid wrth i’r ddau rafft ymgodymu â phob tro a chwymp ar y ffordd, y cyfuniad perffaith o wefr ac ysbryd tîm.

Her Cwis y Dydd & Y Bryntirion Inn

 

Doedd y gystadleuaeth ddim ar ben wrth adael yr afon chwaith. Roedd Ed wedi paratoi cwis pwrpasol, wedi’i rannu’n gamau trwy gydol y dydd, i gadw pawb ar flaenau eu traed rhwng pob gweithgaredd.

I gloi diwrnod bythgofiadwy, aethom draw i’r Bryntirion Inn hanesyddol. Yng nghanol lleoliad hyfryd, cawsom ein sbwylio’n rhacs gyda phryd blasus dros ben, diodydd i dorri syched, ac awyrgylch clyd i ymlacio ynddo. Coronwyd pencampwyr y cwis, buom yn hel atgofion a chwerthin am uchafbwyntiau doniol y dydd, cyn i ni godi gwydr i ddathlu haf gwych arall gyda theulu Baileys and Partners.