Cyflawni cynllunio yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Rydyn ni am ddweud ‘Llongyfarchiadau’ i un o’n cleientiaid a brynodd dir yn ei bentref lleol sawl blwyddyn yn ôl a chychwyn ar daith gynllunio yn hydref 2020 ac sydd, o’r diwedd, wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer dau dŷ. Er i ddau gais gael eu gwrthod, teimlai ei fod yn gwneud y peth iawn i fwrw ymlaen â’r cyfle i godi tai newydd ar hyd stryd breswyl sefydledig. Gyda’n cefnogaeth, cyflwynodd drydydd cais ar gyfer dau dŷ a ddosberthir fel ‘tai fforddiadwy ar gyfer anghenion tai lleol’ ac rydym yn falch iawn bod y cais cynllunio wedi’i gymeradwyo.

Mae’r plotiau hyn bellach yn cael eu marchnata gan gwmni lleol Monopoly Estate Agents. Paratowyd y dyluniadau ar gyfer y tai gan y pensaer o ogledd Cymru, Simon Hall, a weithiodd gyda’r cleient i gyflwyno cynigion a oedd yn gydnaws â’r dirwedd.

Aethpwyd â’r cais i’r pwyllgor cynllunio oherwydd, er iddo gael ei gefnogi gan y cyngor cymuned lleol, nid oedd yn cyd-fynd â’r polisi cynllunio. Saif y plotiau rhwng tai hirsefydlog ac nid oeddent wedi’u datblygu. Pan baratowyd y cynllun datblygu lleol nid oedd y ffin datblygu tai yn cynnwys y rhan o’r lôn oedd yn berthnasol i’r cais hwn; golygai hyn fod y ffordd yn cael ei dosbarthu fel cefn gwlad agored ac yn anffodus nid yw polisi cynllunio Cymru yn cefnogi tai newydd mewn cefn gwlad agored.

Dyma lle mae synnwyr cyffredin yn gwrthdaro â pholisi cynllunio ym Mharc Cenedllaethol Eryri, gan fod y safle yn amlwg yn plot adeiladu, wedi ei rhannu rhywbryd yn y gorffennol gyda thai eraill ar hyd y ffordd, ond heb ei hadeiladu arni. Yr ateb oedd cyflwyno cais cynllunio gyda chytundeb adran 106 mewn grym sy’n effeithio ar y pris y gellir gwerthu’r tai datblygedig a phwy all brynu’r tai.

Yn ddiweddar, llwyddodd cais arall i dderbyn caniatâd cynllunio Ym Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer trosi ysguboriau rhestredig yn dai marchnad agored – heb unrhyw gyfyngiad tai fforddiadwy.  Y ddadl oedd nad oedd y costau adeiladu yn darparu ar gyfer y gallu i dalu swm gohiriedig (taliad yn lle cyfyngiad cytundeb adran 106 yn cael ei osod ar yr addasiadau). Llwyddodd yr ymgeisydd i berswadio pwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol i ganiatáu’r cais er gwaethaf gwrthwynebiad gan y cyngor cymuned lleol oherwydd diffyg taliad swm gohiriedig. Roeddent yn dadlau y byddai’r ysguboriau rhestredig yn dirywio ymhellach heb gael eu hailddatblygu, ond na ellid eu hailddatblygu pe gosodid cyfyngiad ar werth terfynol yr eiddo (h.y. cyfyngiad tai fforddiadwy adran 106), na swm (swm gohiriedig) yn cael ei osod, sy’n ofynnol ar gyfer dileu cyfyngiad cytundeb adran 106.

Mae’r tirwedd ar gyfer datblygu tai yng Nghymru yn dod yn fwy heriol yn enwedig yn y Parciau Cenedlaethol ac yn anffodus mae’r gallu i synnwyr cyffredin fodoli er mwyn caniatáu i economi wledig ffynnu yn brin.

Os ydych yn awyddus i adolygu pa gyfleoedd a allai fod ar gael ar gyfer eich eiddo yna byddem yn hapus i helpu. Gallai hwn fod yn adeilad amaethyddol, yn drawsnewidiad ysgubor, yn annedd menter wledig, neu’n gyfle twristiaeth. Mae gennym brofiad ym mhob maes ac rydym yn ymfalchïo mewn helpu cleientiaid i lywio trwy gymhlethdodau ein system gynllunio.

Gall hyn dynnu ar weithwyr proffesiynol eraill gan gynnwys arbenigwyr amaethyddol, arbenigwyr treftadaeth, archeolegwyr, ecolegwyr, peirianwyr i enwi ond ychydig. Mae’r rhwydwaith hwn o weithwyr proffesiynol y gellir ymddiried ynddynt ac sy’n cael eu hargymell yn caniatáu i’n cwmni gyflawni gwaith technegol heriol nad yw fel arfer yn faes i gwmni llai. Rhowch alwad i ni, fel rydym yn ddweud, ‘rydym yn hoffi her!’

Gallwch gysylltu â’n swyddfa yn Llanbedr ar y ffôn 01341 241700 neu e-bostio ‘enquiries@baileysandpartners.co.uk’ neu ewch i’n gwefan Baileys and Partners>

Cofnod Blaenorol
Achieving planning in Snowdonia National Park Authority
Cofnod Nesaf
Cynnydd mewn mastiau telathrebu dros dro a goblygiadau i ffermwyr

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Fill out this field
Fill out this field
Rhowch gyfeiriad e-bost dilys.
You need to agree with the terms to proceed