Pwy ydyn ni

Mae Baileys and Partners yn dîm brwdfrydig o Syrfewyr Siartredig, sy’n cynnig arbenigedd proffesiynol ar dir, hamdden ac ynni. Rydym yn cynnig gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’n gwaith yn cael ei reoleiddio gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (SBSS)

Mae gennym briswyr sydd wedi cofrestru gyda SBSS sy’n gallu prisio i Safonau Proffesiynol SBSS, a Chanolwr sydd wedi cymhwyso gyda SBSS sydd â llawer o sgiliau rheoli anghydofod. Rydym yn gwmni sy’n falch o fod yn rhan o Sefydliad Pŵer Hydro Prydain (SPHP).

Ein tîm

Edmund Bailey

Cyfarwyddwr

Ed yw cyfarwyddwr Baileys and Partners. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl, ac fe gymhwysodd fel Syrfëwr Cefn Gwlad yn 2003. Mae Ed yn Brisiwr Siartredig gyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (SBSS) ac mae’n Ganolwr Cymhwysiedig. Mae gan Ed gyfoeth o brofiad proffesiynol o weithio gyda phortffolio mawr o gleientiaid. Mae wedi adeiladu ei gynllun hydroelectrig ei hun ar ei fferm deulu yng Nghymru.

Helen Bailey

Cyfarwyddwr

Mae Helen yn gyfarwyddwr yn Baileys and Partners ac yn rheoli’r cwmni. Astudiodd ym Mhrifysgol Harper Adams cyn mynd i weithio gyda chwmni preifat, ac fe ddaeth yn Syrfëwr Cefn Gwlad yn 2003. Sefydlodd Helen ac Ed Baileys and Partners yn 2014. Ffermio a rheoli tir yw bara menyn Helen, ac mae ganddi ddiddordeb mawr yn fferm odro ei theulu.

Jodie Pritchard

Uwch Syrfëwr

Cymhwysodd Jodie fel Syrfëwr Cefn Gwlad yn 2005, mae hi’n Brisiwr Cymhwysiedig gyda SBSS, ac mae hi’n Gymrawd gyda Chymdeithas y Priswyr Amaethyddol. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio gydag elusennau cadwraeth, y gymuned ehangach, ac ystad fawr draddodiadol. Mae Jodie wedi bod yn gweithio yng Nghymru ers 2013 ac yn ddysgwr Cymraeg brwd.

Thomas Hughes

Uwch Syrfëwr

Mae Thomas yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn Syrfewr Cefn Gwlad Siartiedig cymwysedig. Fe wnaeth Thomas astudio ym Mhrifysgol Harper Adams, ac mae ganddo profiad ehang o weithio ofewn awrdurdod leol, rheoli ystadau cefn gwlad yn ogystal ar sector cyfleustodau a seilwaith. Mae Thomas wedi ei eni ai fagu yn ffermwr ac yn rhedeg menter ffermio ei hyn ar Ynys Mon.

Bryn Jenkins

Bryn Jenkins

Syrfewr Graddedig

Mae Bryn yn gweithio gyda Tom o’n swyddfeydd ym Mharc Gwyddoniaeth M-SParc yn y Gaerwen. Graddiodd Bryn o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn daearyddiaeth, yna aeth ymlaen i astudio Menter Wledig a Rheoli Tir ym Mhrifysgol Harper Adams. Mae gan Bryn ystod eang o brofiad a diddordebau amaethyddol. Pan nad yw’n cael ei gadw’n brysur gan ei deulu ifanc, mae’n dilyn rolau gwirfoddol sy’n gysylltiedig â chefn gwlad.

John Hewlett

Peiriannydd

Graddiodd John mewn Peirianneg Mecanyddol gydag Ynni Adnewyddadwy yn 2006. Mae ganddo lawer o brofiad ym maes dylunio ac adeiladu prosiectau ynni, cynnal a chadw hen systemau, yn ogystal ag arolygu a pheiriannu gwerthusiadau. John oedd yn gyfrifol am ddylunio ac adeiladu tyrbin hydroelectrig ‘gwyrdd’ enwog teulu’r Baileys. Mae John wastad yn barod i ymgymryd ag unrhyw her ym myd ynni.

Amy Bowers

Ymgynghorydd

Mae Amy yn helpu Baileys and Partners gyda marchnata a gweinyddu. Hi sy’n gyfrifol am gadw’r ddysgl yn wastad a gwneud i bethau weithio’n llyfn yma! Mae hi’n ofalwraig plant cymhwysiedig ac yn therapydd massage chwaraeon. Mae’n aelod gwerthfawr o’r gymuned leol, ac yn trefnu sawl digwyddiad yn ei hardal.

Kate Coyle

Kate Coyle

Cydlynydd Prosiect

Mae Kate wedi ymuno â’r tîm yn ddiweddar, gan weithio gyda Tom a Bryn yn swyddfa’r M-Sparc ar Ynys Môn.  Mae ganddi gyfoeth o brofiad mewn gweinyddu ystadau  gwledig a bydd yn cynorthwyo’r tîm yn gyffredinol.  Mae gan Kate ystod eang o ddiddordebau gan gynnwys carafanio, chwaraeon modur a gweithgareddau cefn gwlad.

Ein Partneriaid

Rydym yn cynnig gwasanaeth proffesiynol sydd wedi ei deilwra, drwy ddefnyddio arbenigwyr o sawl maes. Mae hyn yn cynnwys arolygu, peirianwaith, materion cyfreithiol a chyfrifo. Rydym yn gwneud hyn er mwyn cwrdd gyda gyfonion penodol y cleient, ac yn aml gofynion cymhleth ac eang. Rydym yn cyfri’r arbenigwyr hynny fel partneriaid, a dyna pam yr ydym yn dwyn yr enw Baileys and Partners fel cwmni.

Beth ydyn ni’n ei wneud

landscape

Tir

Rydym yn deall pwysigrwydd sicrhau y cydbwysedd cywir o uchelgais masnachol mewn ardal wledig. Mae cysylltiadau lleol a dealltwriaeth o gyd-destun yr ardal eich busnes gwledig yn hanfodol yn ein barn ni.

pool

Hamdden

Mae’n gwasanaethau yn niwydiant lletygarwch wedi eu dylunio gyda’ch busnes mewn golwg. Boed yn fuddsoddiad cyntaf neu’n ail-fuddsoddiad mewn cyfleuster sydd gennych eisoes, bydd ein tîm yn sicrhau eich bod yn cael gwerth eich arian.

power

Ynni

Mae gennym gryn arbenigedd ym maes ynni, o fod ynghlwm â sawl prosiect – o’u dechreuad hyd at ddylunio, cynllunio ac adeiladu. Mae gennym brofiad gyda phŵer hydro, ynni llanw, ynni solar, pympiau gwres a storfeydd batri.

Ein Swyddfa

Drwy ddefnyddio ein sgiliau proffesiynol, rydym wedi dylunio ac adeiladu hyb Baileys and Partners, sy’n gweddu i’r wlad o’n cwmpas, yn effeithlon o ran egni, ac yn ‘wyrdd’ ymhob ffordd bosib. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi yma!

Sylwadau bobl eraill

Mae Baileys and Partners yn rhoi gwasanaeth proffesiynol i bob math o gleientiaid; o unigolion preifat i gyrff cyhoeddus a busnesau, a dyma maen’ nhw’n ei ddweud:

We found them to be expert in their field relating to the Leisure industry. They offer a professional and well informed approach to all aspects of our business.

Leisure Site Director

Baileys and Partners will always go that extra mile to try and achieve their client’s goal.

Public body

Baileys & Partners are very professional and capable of dealing with a range of delicate matters. Always focused on the best result for their clients.

Land Owner

Y newyddion diweddaraf

Cylchlythyr

I dderbyn newyddion am y diwydiant, gwybodaeth am gyfleoedd lleol a datblygiadau busnes Baileys and Partners, cliciwch yma.