Tîm Baileys a Phartneriaid Ynys Môn

Mae Baileys and Partners yn gwmni blaenllaw o syrfewyr siartredig gwledig yng Ngogledd Cymru lle gall cleientiaid fod yn sicr o wasanaeth proffesiynol pwrpasol yn y sectorau tir, hamdden ac ynni. Mae’r practis wedi ehangu yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda thîm ymroddedig mewn swyddfeydd ym Mharc Gwyddoniaeth M-Sparc, Gaerwen, Ynys Môn. Tom Hughes sy’n arwain y swyddfa gyda chefnogaeth Bryn a Kate. Mae’r tîm yn cefnogi cleientiaid ar draws ystod o faterion o adnewyddu tenantiaethau amaethyddol i drafodaethau termau parciau solar. Mae Tom wedi gweld cynnydd mewn cyngor ar denantiaeth amaethyddol, diddordeb o’r newydd mewn trafodaethau safle mastiau telathrebu, cleientiaid sydd angen cyngor ar olyniaeth, cymorth amodau cynllunio a phrisiad Treth Etifeddiant ac mae bwrlwm ar yr Ynys gyda hawliadau yn erbyn cwmnïau cyfleustodau.

Yma rydym yn dweud ychydig mwy wrthych am eich tîm ar Ynys Môn. Mae Tom yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn Syrfëwr Siartredig Gwledig cymwysedig. Astudiodd Tom ym Mhrifysgol Harper Adams ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio o fewn awdurdod lleol, rheoli ystadau gwledig yn ogystal â’r sector cyfleustodau a seilwaith. Mae Thomas yn ffermwr ers genedigaeth ac mae’n rhedeg ei fenter ffermio ei hun ar Ynys Môn. Mae Tom bob amser yn brysur boed yn y swyddfa neu gartref; mae pawb yn adnabod Tom ac yn aml yn galw arno am gyngor, ond mae ganddo amser am stori ddoniol bob tro! Rydym newydd ddathlu ail ben-blwydd Tom yn Baileys and Partners. Llongyfarchiadau Tom!

Mae Bryn yn Syrfëwr Graddedig sy’n gweithio’n agos gyda Tom ym Mharc Gwyddoniaeth M-Sparc yng Ngaerwen. Graddiodd Bryn o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Daearyddiaeth, yna aeth ymlaen i astudio Menter Wledig a Rheoli Tir ym Mhrifysgol Harper Adams. Mae gan Bryn ystod eang o brofiadau a diddordebau amaethyddol. Pan na chaiff ei gadw’n brysur gan ei deulu ifanc, mae’n ymgymryd â rolau gwirfoddol sy’n ymwneud â chefn gwlad. Mae Bryn yn cynorthwyo Tom gyda hawliadau iawndal cyfleustodau ac yn ddiweddar mae wedi cymryd y fantell o fod yn arbenigwr tîm ar drafodaethau mastiau telathrebu. Mae Bryn yn giamstar ar baratoi cynlluniau sy’n cydymffurfio â’r Gofrestrfa Tir, gellir dibynnu arno am ei agwedd gadarnhaol a’i ddiwydrwydd gwaith. Mae Bryn newydd ddathlu blwyddyn ers ymuno â Baileys and Partners.

Ymunodd Kate â Thîm Ynys Môn ddiwedd Gorffennaf a hi yw ein Cydlynydd Prosiect yn gweithio gyda Tom a Bryn yn swyddfa Ynys Môn. Mae ganddi gyfoeth o brofiad gweinyddol ar ôl gweithio’n flaenorol i gwmni o Gyfreithwyr, cwmni gwerthu cerbydau ac yn ddiweddarach ystâd breifat leol. Mae hi wedi cael ei thraed oddi tani yn gyflym yn y rôl o gefnogi’r tîm cyfan gyda llu o waith cleient preifat.  Mae gan Kate ystod eang o ddiddordebau gan gynnwys carafanio, chwaraeon moduro a gweithgareddau cefn gwlad. Mae Kate ar ei hapusaf yn ei charafán sefydlog ger Cricieth, yn eistedd yn yr ardd yn gwylio’r bywyd gwyllt.

Peidiwch ag oedi i ffonio un o’r tîm os hoffech drafod unrhyw fater proffesiynol gwledig, mae ein gwefan baileysandpartners.co.uk yn rhestru ein meysydd arbenigedd.

Gallwch gysylltu â Swyddfa Ynys Môn Baileys and Partners drwy ffonio 01248 893777 neu e-bostio thomas.hughes@baileysandpartners.co.uk neu galwch heibio i’n gweld https://maps.app.goo.gl/9VScGythZTj1Pfon8

Cofnod Blaenorol
The Anglesey Team of Baileys and Partners
Cofnod Nesaf
Woodlands: The value of data in unlocking the potential of natural capital assets.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Fill out this field
Fill out this field
Rhowch gyfeiriad e-bost dilys.
You need to agree with the terms to proceed