O fis Ebrill 2026, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu newid y ffordd mae Treth Etifeddiant yn cael ei hasesu ar gyfer ffermwyr, gyda phwyslais penodol ar Ryddhad Eiddo Amaethyddol (APR) a Rhyddhad Eiddo Busnes (BPR). Er nad yw’r cynigion hyn wedi dod i rym eto, mae’n hanfodol bod ffermwyr yn dechrau paratoi rŵan.
Yn Baileys a’u Partneriaid, rydym yn annog cleientiaid i gynllunio ar gyfer y sefyllfa waethaf bosib, gan obeithio y bydd y Llywodraeth yn cymryd dull mwy pragmataidd. Beth bynnag fo’r canlyniad, mae cynllunio olyniaeth effeithiol yn dal yn hollbwysig – ac mae prisiad cadarn, annibynnol yn elfen allweddol o’r broses honno.
Wrth weinyddu ystâd, yn enwedig un sy’n cynnwys eiddo, mae prisiadau cywir yn chwarae rhan ganolog mewn cyfrifo atebolrwydd Treth Etifeddiant a sicrhau dosbarthu teg rhwng buddiolwyr. Er bod gwerthwyr eiddo’n cynnig prisiadau’r farchnad, ni fydd y rhain yn ddigonol os bydd trydydd parti’n dibynnu ar brisiadau, ac yn enwedig pan fo’r prisiadau hynny’n ymwneud ag eiddo sydd â photensial datblygu, adeiladau rhestredig, tirddaliad eang neu asedau ynni adnewyddadwy. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae prisiad ffurfiol Llyfr Coch RICS wedi’i baratoi gan Brisiwr Cofrestredig RICS cymwys, yn anhepgor.
Mae prisiad Llyfr Coch yn mynd y tu hwnt i werthusiad arwynebol. Mae’n darparu dadansoddiad manwl a gwrthrychol o’r eiddo, gan ystyried amodau’r farchnad a nodweddion penodol yr asedau. Mae’r adroddiadau hyn yn bodloni’r safonau proffesiynol uchaf ac yn cynnig tawelwch meddwl i gleientiaid, ysgutoriaid ac ymgynghorwyr proffesiynol fel ei gilydd. Mae eu natur ddiduedd yn arbennig o werthfawr wrth ddatrys anghydfod ymhlith buddiolwyr neu wrth ymdrin â chraffu gan HMRC, a allai herio asesiadau anffurfiol neu rai sy’n tanbrisio.
Yn Baileys a’u Partneriaid, rydym yn credu mewn dull cydweithredol. Byddwn yn gwrando’n astud ar eich gofynion a sicrhau ein bod yn cydweithio gyda’ch cyfreithiwr a’ch cyfrifydd drwy gydol y broses. Nid ymarfer caeedig mo’n gwaith prisio – byddwn yn cynnal deialog gyda’r holl bartïon perthnasol cyn cyhoeddi ein hadroddiad terfynol, y bydd modd ei gyfiawnhau.
Mae ein tîm o Briswyr Cofrestredig RICS profiadol yn codi fesul awr, ac rydym yn hapus i ddarparu amcanbris clir ymlaen llaw. Darperir y prisiadau’n effeithlon a chost effeithiol heb gyfaddawdu ar ansawdd a chywirdeb.
Rydym yn falch o gynnig arbenigedd mewn ystod o feysydd prisio, yn cynnwys eiddo a thir, mentrau arallgyfeirio, ynni adnewyddadwy a stoc byw a marw. Mae’r wybodaeth eang hon yn sicrhau ein bod yn deall cymhlethdod ymarferol ystadau gwledig modern ac yn darparu prisiadau sy’n berthnasol, realistig a dibynadwy.
I siarad ag aelod o’n tîm prisio, ewch i www.baileysandpartners.co.uk, anfonwch e-bost at ed@baileysandpartners.co.uk neu tom@baileysandpartners.co.uk, 01341 241700.
Yn ein blog nesaf, byddwn yn edrych yn fanylach ar gynnwys adroddiad prisiad Llyfr Coch a sut y gall fod yn sylfaen i gynllunio olyniaeth yn yr hirdymor.
I ddarllen mwy am sut y gall Baileys and Partners gefnogi tirfeddianwyr, darllenwch yma







