Fy Nhaith gyda Baileys & Partners: O Brofiad Gwaith i Fewnwelediad Diwydiant, gan Emma Lloyd

Rwyf wedi dychwelyd ar gyfer fy nhrydydd haf o waith gyda Baileys & Partners. Dechreuodd y cyfan gyda wythnos o brofiad gwaith yn 2019, ac yna interniaeth haf yn 2023 ar ôl cwblhau fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Harper Adams yn astudio Rheoli Eiddo Gwledig. Ymlaen i’r haf hwn, ac rwyf bellach wedi gorffen fy mlwyddyn lleoliad gwaith ar ystâd breifat yn Warwickshire, ac wedi ddychwelyd i weithio ochr yn ochr â’r tîm yn Baileys & Partners yn eu swyddfa yn M-SParc yn Gaerwen.

Gan fynd yn ôl i’m wythnos o brofiad gwaith yn 2019, dyna’r wythnos a daniodd fy niddordeb mewn arolygu a rheoli tir, ac a gadarnhaodd fy newis o brifysgol a’r cwrs. Helpodd y tîm yn Baileys & Partners i mi ddeall y byd arolygu, rheoli tir a phrosiectau ynni gwledig.

Ymlaen i 2023, ar ôl cwblhau fy mlwyddyn gyntaf yn Harper Adams, dychwelais i Baileys & Partners gyda gwell gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant. Roeddwn yn gallu cymryd rhan lawer mwy mewn prosiectau parhaus – mapio ffiniau, drafftio dogfennau prydles, ac ymuno â chyfarfodydd ar ymarferoldeb ynni adnewyddadwy. Roedd y tîm yn galonogol ac yn gymwynasgar iawn. Erbyn diwedd yr haf hwnnw, roeddwn wedi ennill hyder mewn cyfathrebu proffesiynol ac wedi dysgu llawer iawn er mwyn paratoi at fy nychweliad i’r brifysgol y tymor canlynol.

Dychwelais i Harper ar gyfer fy ail flwyddyn a blwyddyn lleoliad gwaith ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio dros yr haf gyda thîm Baileys. Rwyf wedi cael y cyfle i weithio ar draws sectorau tir, hamdden ac ynni dros y misoedd diwethaf, gan gyd-fynd â aelodau’r tîm ar asesiadau gwerthuso, cynorthwyo gyda cheisiadau cynllunio a drafftio cytundebau i dirfeddianwyr.

Wrth i’r hydref agosáu, byddaf yn dychwelyd i Harper Adams i gwblhau fy mlwyddyn olaf o astudiaethau, ac, diolch i gefnogaeth y tîm yn Baileys & Partners, byddaf yn dychwelyd gyda gwell dealltwriaeth ymarferol o’r gwaith sydd ei angen.

Diolch i bawb yn Baileys & Partners am y mentora a’r cymorth dros y misoedd diwethaf, ac rwy’n hynod ddiolchgar am yr arweiniad rwyf wedi’i gael dros y blynyddoedd.

Uchod mae llun ohonof fi gyda Huw Myfyr, sydd wedi ymuno’n ddiweddar â thîm Baileys, y tu allan i swyddfa M-SParc yng Ngaerwen gyda’n baner newydd yn barod ar gyfer Sioe Môn.

Cofnod Blaenorol
Beth yw Syrfëwr Siartredig Gwledig?

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Fill out this field
Fill out this field
Rhowch gyfeiriad e-bost dilys.
You need to agree with the terms to proceed