Mae ‘Baileys and Partners’, cwmni blaenllaw o Syrfewyr Siartredig, yn falch iawn o groesawu Bryn Jenkins i’w tîm cynyddol. Bydd Bryn yn gweithio ochr yn ochr â Tom Hughes yn eu swyddfa ym Mharc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) yn Gaerwen. Mae M-SParc yn ganolbwynt carbon isel yng Ngogledd Cymru, gan gysylltu â datblygiadau cyffrous sy’n digwydd ar yr ‘Ynys Ynni’.
Astudiodd Bryn Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor a bu’n gweithio i Fferm Ymchwil y Brifysgol a’r Ganolfan Defnydd Tir Amgen ar ôl graddio, gan gynorthwyo gyda sefydlu cnydau newydd ac arbrofion cnydau ar raddfa cae. Dychwelodd Bryn i astudio yn 2010, gan raddio o Harper Adams gyda gradd Meistr mewn Menter Wledig a Rheoli Tir.
Dywedodd Bryn “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chleientiaid newydd a gweithio ochr yn ochr â thîm gwych”.
Wedi tyfu i fyny yn gweithio ar ffermydd llaeth a chymysg amrywiol o bob maint, a gyda diddordeb mewn cnydau newydd, ffermio cynaliadwy, ynni cynaliadwy, a dylunio adeiladau cynaliadwy, mae gan Bryn ystod eang o brofiadau a diddordebau amaethyddol. Mae Bryn yn edrych ymlaen at weithio gyda Tom a’r Tîm Baileys ehangach i ddod â’r syniadau newydd hynny a’i brofiad yn y sector gwledig i’r gweithle.
Mae gan Bryn hefyd bartner, merch ifanc a dim llawer o amser rhydd, er ei fod yn mwynhau gwaith coed ac yn dal i ffeindio amser i wirfoddoli gyda grŵp sy’n rheoli stad a choetir ar lannau’r Fenai.
Mae Tom Hughes o Baileys and Partners yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Bryn, gan ddweud “Mae Bryn yn dod â chyfoeth o brofiad mewn llawer o sectorau gwledig i’n tîm. Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd o’r blaen mewn rôl flaenorol, rwy’n falch fy mod yn cael y pleser o weithio ochr yn ochr â Bryn eto. Croeso i’r tîm”.