Ai dyma’ch cyfle i gynyddu’r gronfa o adnoddau ynni adnewyddadwy, trwy fuddsoddi mewn cynllun ynni dŵr a gwrthbwyso carbon a fydd hefyd yn gwella bioamrywiaeth?
Mae’r farchnad ar gyfer buddsoddiadau carbon sy’n gysylltiedig â’r argyfwng hinsawdd wedi rhoi hwb sylweddol i ddiddordeb yn y farchnad wirfoddol ar gyfer gwahanol ffyrdd o wrthbwyso carbon. Mae amryw o wahanol ffyrdd i wrthbwyso carbon ac nid yw pob un yn rhai yn seiliedig ar natur, h.y. adfer coetiroedd a mawndiroedd. Mae dal carbon, effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy hefyd yn chwarae rhan bwysig iawn yn yr uchelgais i gyflawni sero net.
Mae Baileys & Partners yn falch o gynnig cyfle cyffrous i fuddsoddwyr sicrhau buddiant cyfreithiol mewn cynllun trydan dŵr sydd wedi’i ganiatáu’n rhannol ac sydd wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r cyfle buddsoddi yn gynllun llif afon gyda chapasiti posibl o fwy na 500kW. Mae’r perchnogion presennol eisoes wedi sicrhau trwydded tynnu a chronni dŵr trwy’r rheoleiddiwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae arolygon a gwaith cynllunio wedi dechrau i gefnogi cyflwyno cais cynllunio amserol. Er mwyn cwblhau’r gwaith, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol angen Datganiad Amgylcheddol i hwyluso Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA). Mae llawer iawn o waith proffesiynol a chynnydd wedi’i wneud i roi hyn ar waith.
Yn ogystal â chynhyrchu ynni adnewyddadwy, mae gan y cynllun y gallu i hwyluso gwella bioamrywiaeth gan ei fod wedi’i leoli mewn lleoliad pwysig yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol. Dylai’r incwm sy’n deillio o’r cynllun hefyd allu cyfrannu at reolaeth gadarnhaol barhaus o’r tir fferm cyfagos.
Er nad yw’r mecanwaith cymorth Tariff Cyflenwi Trydan (FiT) ar gael ar gyfer y cynllun hwn, rydym yn rhagweld y bydd y cymhellion i fuddsoddi yn dod gan y rheiny sydd a’r uchelgais o gyrraedd allyriadau carbon sero net gan ystyried hefyd eu henw da corfforaethol a’u cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a’u llywodraethu. Mae’r Bil Amgylchedd hefyd wedi gosod rhwymedigaethau cyfreithiol newydd ar ddatblygwyr i wneud darpariaeth ar gyfer enillion (net) bioamrywiaeth, a fydd yn y pen draw yn ei gwneud yn ofynnol i bob datblygwr gynyddu gwerth bioamrywiaeth eu safleoedd datblygu i 10% yn fwy nag yr oedd cyn y datblygiad.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni , byddwn yn hapus i helpu.