Taliadau amgylcheddol I Ffermwyr: Cyfle euraldd neu faen tramgwydd?

Rhybudd i werthwyr!

Dyma’n neges allweddol i ffermwyr o ran y termau lle gallai taliadau amgylcheddol gel eu cynnig.

Gallai ‘Prynwyr’ a ‘Deunyddiau’ fod yn niferus a amrywiol.

Ar un pegwn mae’r sefydliadau ydyn ni wedi arfer â gwneud busnes amaethyddol â nhw, fel Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Ar y daith, bydd datblygwyr yn ceisio lleihau eu hôl troed amgylcheddol, cwmnïau mawr sy’n dymuno lleihau eu hallyriadau carbon, ac, o bosib yr agwedd sy’n dod â’r risg fwyaf, ystod o ganolwyr yn ceisio taro bargeinion mewn rhyw ffordd neu’i gilydd rhwng prynywr a gwerthwyr.

Bydd cytundebau’n amrywio hefyd: 

  • Bydd rhai am gyfnodau byr, gydag effaith fechan ar y fferm
  • Ond ar y pegwn arall, bydd rhai cytundebau’n para am amser hir, 30 mlynedd neu’n hirach, a bydd eu gofynion yn gyfyngol iawn.

Beth yw’r risgiau?

Rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith gyda phrosiectau tymor hir. Dyma rai o’r risgiau yr ydym wedi eu canfod:

  • Risg fiolegol: fflora, ffawna, plâu ac afiechydon – mae pethau sydd newydd gael eu plannu’n marw neu’n methu
  • Risg Newid Hinsawdd: Gallai’r hyn sy’n gweithio ar hyn o bryd gael trafferth mewn 15 neu 20 blynedd
  • Risg Rheoleiddio a chydymffurfiaeth: Mae rheolau’n newid; mae cyfundrefnau rhy eithafol yn methu â gwerthfawrogi heriau ymarferol o weithio gyda’r amgylchedd naturiol
  • Risg Cyfamod: mae’r prynwr wedi addo eich talu chi bob blwyddyn am 30 blynedd, maen nhw’n mynd i’r wal…
  • Risgiau economaidd: Mae chwyddiant yn mynd allan o reolaeth, mae rheolau trethu yn newid. Mae’n gwaith gyda phrosiectau eraill wedi edrych ar y nifer cyfartalog o chwyddiant blynyddol dros gyfnodau o 30 blynedd o 1947 (e.e 1947 i 1977, 1948 i 1978 ac yn y blaen hyd at 2023)
  • Risg Cyfalaf: Ydych chi’n betio’r fferm ar y 3.30 yn Casgwent? Beth sy’n digwydd i werth eich ased pwysicaf
  • Risg Deiliadaeth: pwy arall sydd angen cael barn? Benthycwyr? Tenantiaid? Eich plant a’ch wyrion?
  • Risg dynol a hyfforddiant: Mae’r rhan fwyaf o brosiectau angen monitro cyson, a bydd peth o’r monitro angen bod yn arbenigol i sicrhau fod prosiectau’n aros ar y cledrau.

A yw hyn yn golygu y dylech gadw draw oddi wrth y cyfleoedd? Na. Ond mae’n golygu y dylech eu pwyso a’u mesur yn ofalus iawn. Sicrhewch fod y bobl sy’n eich cynghori yn gweithio i CHI. Bydd rhai yn amlwg yn gweithio i’r prynwr, er enghraifft cynghorwyr y llywodraeth. Bydd dulliau eraill yn dod gan gyfryngwyr – sy’n ceisio adeiladu busnesau newydd yn y bwlch rhwng cyflenwyr ffermwyr a phrynwyr diwydiannol a masnachol. Efallai nad eich diddordebau chi yw eu diddordebau nhw. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ceisiwch eich cyngor annibynnol eich hun ac ewch ymlaen yn ofalus. Gall ffigurau sy’n edrych yn llawn sudd ac yn tynnu dŵr o’ch dannedd edrych yn wahanol iawn mewn 10 neu 15 mlynedd. Peidiwch â gwerthu eich hun na diwydiant ffermio Cymru yn fyr!

Mae Ed Bailey a Charles Cowap yn aelodau o Natural Capital Consortium, grŵp o gynghorwyr o’r un anian yng Nghymru a’r cyffiniau sy’n ceisio cefnogi’r diwydiant ffermio wrth iddo bwyso a mesur cyfleoedd, bygythiadau a heriau newydd.

Cysylltwch os oes angen rhagor o fanylion. Ein cwmnïau sy’n aelodau:

Baileys and Partners

Tyddyn Du

Llanbedr

Gwynedd

LL45 2LR

Contact: Ed Bailey

https://baileysandpartners.co.uk/

enquiries@baileysandpartners.co.uk

01341 241700

Davis Meade Property Consultants

103 Beatrice Street

Oswestry

Shropshire

SY11 1HL

Contact: Philip Meade 

https://www.dmpropertyconsultants.com/

oswestry@dmpcuk.com

01691 659658

DJM Consulting 

The Rural Centre 

West Farm 

Aston Eyre 

Bridgnorth 

Shropshire 

WV16 6XB 

Contact: David Meredith

http://www.theruralbusiness.co.uk/ 

djmc@theruralbusiness.co.uk 

01746 714089

Natural Capital Consortium is a trading name of the firms named above, chaired by Charles Cowap, MBA MRICS FAAV PFIAgM FRAgS CEnv, Visiting Professor in Land Management at Harper Adams University: cdcowap@gmail.com, 07947 706505

Cofnod Blaenorol
Environmental payments to farmers: Goldmine or minefield?
Cofnod Nesaf
The Anglesey Team of Baileys and Partners

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Fill out this field
Fill out this field
Rhowch gyfeiriad e-bost dilys.
You need to agree with the terms to proceed