Arbenigwyr Tir, Hamdden ac Ynni

Cwmni annibynnol o Syrfewyr Siartredig yw Baileys and Partners, wedi ei leoli yn Eryri. Rydym yn arbenigo ym meysydd tir, hamdden ac ynni, ac yn darparu gwasanaeth proffesiynol sydd wedi ei deilwra yn ôl gofynion y cleient, wrth gydweithio gyda phartneriaid yr ydym yn ymddiried ynddynt. Weithiau, gall y gofynion hynny fod yn eang ac yn gymhleth, ac mae’n cleientiaid yn cynnwys unigolion preifat, cyrff cyhoeddus, yn ogystal â busnesau.

 

Regulated by RICS

Pwy ydyn ni

Mae Baileys and Partners yn dîm brwdfrydig o Syrfewyr Siartredig, sy’n cynnig arbenigedd proffesiynol ar dir, hamdden ac ynni. Rydym yn cynnig gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’n gwaith yn cael ei reoleiddio gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (SBSS)

Mae gennym briswyr sydd wedi cofrestru gyda SBSS sy’n gallu prisio i Safonau Proffesiynol SBSS, a Chanolwr sydd wedi cymhwyso gyda SBSS sydd â llawer o sgiliau rheoli anghydofod. Rydym yn gwmni sy’n falch o fod yn rhan o Sefydliad Pŵer Hydro Prydain (SPHP).

Beth ydyn ni’n ei wneud

Cwmni annibynnol o Syrfewyr Siartredig yw Baileys and Partners, sydd wedi ei ei reoleiddio gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (SBSS). Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau proffesiynol ym meysydd Tir, Hamdden ac Ynni. Drwy weithio’n agos gyda’n partneriaid, rydym yn darparu pecyn cynhwysfawr o wasanaethau proffesiynol i’n cleientiaid amrywiol. Mae ein hegni proffesiynol ac ein ffordd frwdfrydig o weithio yn golygu y gall eich eiddo berfformio y tu hwnt i’ch disgwyl.

landscape

Tir

Rydym yn deall pwysigrwydd sicrhau y cydbwysedd cywir o uchelgais masnachol mewn ardal wledig. Mae cysylltiadau lleol a dealltwriaeth o gyd-destun yr ardal eich busnes gwledig yn hanfodol yn ein barn ni.

pool

Hamdden

Mae’n gwasanaethau yn niwydiant lletygarwch wedi eu dylunio gyda’ch busnes mewn golwg. Boed yn fuddsoddiad cyntaf neu’n ail-fuddsoddiad mewn cyfleuster sydd gennych eisoes, bydd ein tîm yn sicrhau eich bod yn cael gwerth eich arian.

power

Ynni

Mae gennym gryn arbenigedd ym maes ynni, o fod ynghlwm â sawl prosiect – o’u dechreuad hyd at ddylunio, cynllunio ac adeiladu. Mae gennym brofiad gyda phŵer hydro, ynni llanw, ynni solar, pympiau gwres a storfeydd batri.

Sylwadau bobl eraill

Mae Baileys and Partners yn rhoi gwasanaeth proffesiynol i bob math o gleientiaid; o unigolion preifat i gyrff cyhoeddus a busnesau, a dyma maen’ nhw’n ei ddweud:

For wise council, attention to detail, and patience in dealing with complex decisions, Baileys and partners have been superb.

Energy developer

We have benefited from their wise council and enthusiasm for many years and have no hesitation in recommending this company.

Resident Agent

Baileys and Partners will always go that extra mile to try and achieve their client’s goal.

Public body

Y newyddion diweddaraf

Cylchlythyr

I dderbyn newyddion am y diwydiant, gwybodaeth am gyfleoedd lleol a datblygiadau busnes Baileys and Partners, cliciwch yma.