Ein taith archwilio carbon

Mae’r term “sero net” yn aml yn arwain at ymatebion cymysg yn y gymuned ffermio. Yn Baileys a’u Partneriaid, rydym yn deall bod llawer o ffermwyr da byw yn ansicr sut mae’r sgwrs garbon yn berthnasol iddyn nhw, neu a yw’n cynnig unrhyw fanteision amlwg. Dyna pam ein bod wedi penderfynu mynd drwy’r broses ein hunain – i’w deall yn well ac i gefnogi ein cleientiaid yn well. Gan ein bod yn ymwybodol ein bod yn trafod archwiliadau carbon, arferion ffermio cynaliadwy, ffermio adfywiol a marchnadoedd carbon gyda’n cleientiaid, penderfynom y dylem droi gair yn weithred (er ar lai o faint!).

Yn ddiweddar, fe wnaethom groesawu’r cyfle i asesu ein ôl-troed carbon ein hunain drwy gymryd rhan yn yr Academi Ddigidol Werdd – menter wedi’i hariannu’n llawn i helpu busnesau werthuso allyriadau, nodi anghenion hyfforddi a datblygu cynlluniau lleihau carbon realistig. Bu’r broses, er ei bod yn wahanol o ran maint a’r gwasanaeth a gynigir i fusnesau ffermio, yn ddefnyddiol iawn.

Mewn ffordd debyg i archwiliadau fferm, rhoddodd Baileys a’u Partneriaid wybodaeth am ein defnydd o ynni a ffyrdd o weithio i Greener Edge, a’n helpodd i ddeall a gwerthuso ein hallyriadau carbon.

Rhennir allyriadau i fusnesau’n Gwmpas 1, 2 a 3; Cwmpas 1 Allyriadau uniongyrchol – o ffynonellau sy’n eiddo uniongyrchol neu’n cael eu rheoli gan y busnes, er enghraifft, yr allyriadau o danwydd mewn tractor neu’r methan a gynhyrchir gan anifail. I fferm da byw, fel arfer allyriadau Cwmpas 1 sy’n cynhyrchu rhan fwyaf y carbon.
Cwmpas 2 Allyriadau ynni anuniongyrchol – Dyma’r allyriadau o ffynonellau anuniongyrchol. Er enghraifft, trydan a brynwyd gan y grid i gynhesu adeiladau neu ar gyfer plat oeri llaeth ar fferm laeth.
Allyriadau Cwmpas 3 – Dyma ble mae pethau’n mynd yn ddyrys. Yn y categori hwn mae’r holl allyriadau o’r gadwyn gyflenwi ehangach ond sydd hefyd yn gysylltiedig gyda’r busnes. Er enghraifft, prynu gliniadur newydd, neu enghraifft gyffredin ar fferm fyddai prynu gwasanaeth milfeddyg neu feddyginiaethau. Mae allyriadau Cwmpas 3 fel arfer yn uchel ar gyfer busnesau gwasanaeth fel Baileys a’u Partneriaid, ond yn llai ar gyfer ffermydd da byw.

Mae’r broses o asesu ôl-troed carbon wedi bod yn addysgiadol, o gasglu data ac asesu beth sydd ar gael i wneud yr asesiadau, adolygu pa newidiadau sydd yn ein gafael i’w gwneud, beth mae’n ei olygu pan fyddwn yn gwneud y newidiadau hynny a beth allwn ei honni am ein nodweddion gwyrdd.

Ein nodau cyffredinol a’n hamcanion masnachol yw sefydlu a all y broses hon ein helpu i wella iechyd ein busnes (arbedion cost a throsiant uwch o bosibl) wrth leihau allyriadau carbon ac effeithiau amgylcheddol, drwy greu cynllun lleihau carbon. Casglodd ein hasesiad carbon bod ein hallyriadau cwmpas 1 yn sero, bod ein hallyriadau cwmpas 2 yn isel iawn a bod cwmpas 3 yn 99% o’n hallyriadau busnes. Fe wnaethom lunio cynllun gweithredu tymor byr, canolig a hir, nid ydym yn ceisio bod yn berffaith, ond yn ceisio dynodi meysydd sydd angen eu gwella.

Ochr yn ochr â’r Academi Ddigidol Werdd, rydym wedi bod yn aelod o Rwydwaith Sero Net Gogledd Cymru ers blynyddoedd. Mae hynny’n ddefnyddiol i ddynodi sut mae busnesau eraill yn llywio’r daith tuag at sero net a rhannu profiadau am sut maen nhw’n elwa o gyfleoedd ac arbedion gwahanol.

Bwriad Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yw cefnogi ffermwyr yng Nghymru i gyflawni targedau sero net. Dywedir y bydd y Cynllun Newydd hwn, y mae disgwyl iddo gael ei lansio yn 2026, yn annog ffermwyr i gynnal archwiliad carbon. Yn dilyn cyfnod anodd ac anrhagweladwy’n wleidyddol i amaethyddiaeth, gellir maddau i’n cleientiaid amaethyddol am fod yn wyliadwrus ac efallai’n amheus o unrhyw beth sy’n golygu mwy o waith papur a chymhlethdod. Mae ein canfyddiadau hyd yma wedi bod yn bositif, a byddem yn annog ein cleientiaid i ddefnyddio archwilio carbon fel cyfle i ddynodi arbedion cost a llif incwm newydd posibl. Er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’ch busnes wneud y mwyaf o’r cyfle hwn, ein canfyddiadau cychwynnol yn seiliedig ar ein taith ein hunain yw sicrhau bod ein cleientiaid amaethyddol yn cadw cymaint o gofnodion menter â phosibl yn y dyfodol fel y gall y data hwn helpu i arwain yr archwiliad carbon.

Bydd ein pwyslais ar gymryd camau bychan ond gwerth chweil a gwneud datgarboneiddio’n rhan o daith y busnes yn y dyfodol. Rydym mewn sefyllfa dda i helpu ein cleientiaid gyda’u harchwiliadau carbon, arferion ffermio cynaliadwy, ffermio adfywiol a dadansoddi marchnadoedd carbon.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi ar eich taith archwilio carbon, ac yn bwysig iawn, adnabod cyfleoedd masnachol ar hyd y ffordd. Os gallwn eich helpu, cysylltwch â Jodie a thîm Baileys a’u Partneriaid am fwy o fanylion ar 01341 241700 enquiries@baileysandpartners.co.uk

Cofnod Blaenorol
Our carbon audit journey
Cofnod Nesaf
Supporting Landowners with the Pentir to Trawsfynydd National Grid Network Upgrade

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Fill out this field
Fill out this field
Rhowch gyfeiriad e-bost dilys.
You need to agree with the terms to proceed