Mae’n bleser gan Baileys and Partners groesawu Thomas Hughes o Faenaddwyn, Ynys Môn i’r tîm wrth iddo dyfu.
Fe gafodd Tom ei eni a’i fagu ar Ynys Môn, ac mae’n siaradwr Cymraeg rhugl. Fe fydd yn gweithio o swyddfa newydd Baileys and Partners sydd wedi ei lleoli ym Mharc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) yng Nghaerwen.
Mae M-SParc yn ganolbwynt i ffocws carbon isel gogledd Cymru, ac yn gyswllt i sawl datblygiad cyffrous sy’n digwydd ar ‘Ynys Ynni’. Bydd y swyddfa newydd yn M-SParc yn darparu canolfan broffesiynol i Baileys and Partners, ble ‘gallan nhw gydweithio gyda’u cyd-denantiaid a chael cefnogaeth y tîm egnïol a diddorol sy’n gweithio yno.
Fe fydd Tom, sydd wedi cymhwyso fel Syrfewr Siartredig ym maes gweithgarwch gwledig, yn ymuno gyda Baileys and Partners fel Uwch Syrfewyr, ac yn dod ag ystod eang o brofiadau o weithio yn y sector gwasanaethau ac isadeiledd gydag o. Mae hefyd wedi gweithio fel Asiant Tir dros Ddŵr Cymru, ac fel Rheolwr Ystadau Gwledig Cyngor Sir Fôn.
O gael ei fagu ar fferm odro ar Ynys Môn, a rheoli menter amaethyddol fechan ei hun bellach gyda’i wraig Rhian, mae gan Tom ddiddordeb byw a gwybodaeth ddofn o’r diwydiant ffermio a materion cefn gwlad. Mae hefyd wedi cynrychioli cangen Ynys Môn o’r Ffermwyr Ifanc mewn digwyddiadau cenedlaethol a barnu anifeiliaid yn y Sioe Frenhinol. Mae gan Tom a Rhian dri o blant, sydd, o bosib, yn cadw Tom yn brysurach na’i waith bob dydd!
Mae Tom wedi ennill Uwch Dystysgrif Cenedlaethol mewn Peirianneg Sifil, ac yn gallu defnyddio Auto CAD ac amryw o Systemau Gwybodaeth Byd-eang (GIS) eraill. Fe fydd ei sgiliau felly yn plethu’n dda ac yn cryfhau’r arbenigedd peiriannol sydd gennym yn Baileys and Partners – mae hyn yn hanfodol o ystyried y galw cynyddol am wasanaethau sy’n ymwneud ag ynni.
Mae Ed Bailey o Baileys and Partners yn edrcych ymlaen at gydweithio gyda Thomas: “Mae Tom yn ddyn y bobl. Mae’n garismataidd, ymarferol ac mae ganddo gymysgedd wych o arbeigeddau proffesiynol. Dw’ i wrth fy modd yn ei groesawu i’r tîm.”
Byddai Thomas pob amser yn croesawu sgwrs a panad. Gallwch gysylltu a Tom ar ei ffôn symudol : 07538039889 neu ebost : Thomas.hughes@baileysandpartners.co.uk