Yn ystod y misoedd diwethaf mae tîm Baileys & Partners yn Ynys Môn wedi ychwanegu darn o offer arloesol i ategu eu gwasanaethau.
Mae profiad ymarferol Tom mewn peirianneg a lluniadu CAD, ynghyd â diddordeb Bryn mewn mapio ac ymchwil, wedi cyfuno i gynnig gwasanaeth newydd.
Arweiniodd cwblhau prosiectau diffinio ffiniau a mapio cyffredinol yn llwyddiannus i gleientiaid at fwy o ymholiadau am y gwasanaethau. Ar ôl sylweddoli’r cymhlethdod a nifer y prosesau sydd eu hangen wrth ddefnyddio’r dulliau mesur traddodiadol, ysgogodd cefndir ymarferol Tom mewn peirianneg a chynllunio safleoedd dîm Ynys Môn i chwilio am offer arbenigol o ddiwydiannau eraill a allai wella a moderneiddio’r broses.
Ar ôl ymchwil hir i’r offer mwyaf priodol, daeth tîm Ynys Môn o hyd i’r ateb; offer GPS, yn fanwl gywir i 10mm, a ddefnyddir fel arfer ar brosiectau seilwaith a pheirianneg sifil ar raddfa fawr, lle mae cywirdeb yn hollbwysig.
Mae’r offer GPS newydd a ddefnyddir gan dîm Ynys Môn yn hunan-raddnodi ac yn defnyddio sawl lloeren sy’n cynyddu cywirdeb a darpariaeth GPS; os nad oes digon o ddarpariaeth GPS ar gyfer y lefel ofynnol o gywirdeb, bydd yr offer yn diffodd ei hun, gan atal gweithredwr rhag cymryd mesuriad anghywir.

Unwaith y bydd cynlluniau wedi’u lanlwytho i’r feddalwedd GPS, mae’r ddyfais yn tywys y gweithredwr i bwyntiau union, gyda chywirdeb o 10mm. Mae hyn yn lleihau’r prosesau sydd eu hangen i nodi ffin neu ddod o hyd i safle, gan roi gwybodaeth i gleientiaid y gallant ddibynnu arni. Mae’r ddyfais GPS hefyd yn gweithredu ar wahân i’r gweithredwr, sydd, unwaith y bydd cynllun wedi’i lanlwytho, yn dilyn cyfarwyddiadau o’r peiriant. Bydd hyn yn darparu mwy o ddibynadwyedd ar unrhyw ganfyddiadau a ddefnyddir mewn adroddiadau.
Gellir defnyddio’r offer GPS ar gyfer amrywiaeth o brosiectau mapio a diffinio ffiniau, o anghydfodau ynghylch ffiniau i osod caeau pori ar gyfer gwartheg godro ac mae’n ddarn o offer hynod gywir ac amlbwrpas.
Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi brosiect a allai elwa o offer GPS a sgiliau tîm Baileys & Partners Ynys Môn, byddem yn hapus i drafod eich gofynion.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni , byddwn yn hapus i helpu.