Iolo

Gan Iolo

Mehefin 2026

Amdano Iolo

Mae wedi bod yn gyfnod heriol mewn mwy nag un ystyr – y Gaeaf gwlyb yn troi’n Wanwyn oer, efo’r gwynt dwyreiniol yn caledu wyneb y ddaear fel concrit. Yna diwedd Mai yn arwain at wres tanbaid a llawer yn hiraethu am y glaw a gafwyd ychydig wythnosau yn flaenorol!! 

Ond o bosib, yr her fwyaf a welwyd oedd newid Llywodraeth yn y Senedd  yng Nghaerdydd. Ar ôl degawdau o fod o dan reolaeth y blaid Lafur, Plaid Cymru fydd o hyn ymlaen yn cymryd yr awennau, er bod y blaid newydd sefydledig ‘Reform’wedi creu dipyn o gynnwrf yn yr wythnosau hyd at yr etholiad. 

 

A fedr Plaid Cymru achub ein gwlad? 

Fel y gweddill o’r pleidiau mae llawer i addewid wedi ei wneud yn arwain i fyny at yr Etholiad, ac i fod yn deg fe fydd rhaid rhoi amser i Rhun ap Iorweth a’i dîm i wireddu eu haddewidion gan nad yw’n mynd i fod yn dasg hawdd newid pethau dros nos.

I ni yma yn Ngogledd Orllewin Cymru, mae cryn sylw yn cael ei roi i seilwaith ein cyflenwad trydan trwy gryfhau yr isadeiladedd rhwng is – orsafoedd Pentir a Thrawsfynydd a’r gwaith yr ydym ni fel cwmni yn ymwneud yn helaeth a fo, sef ymchwilio i ddod a chyflenwad newydd i mewn o’r môr ger Dinas Dinlle a chysylltu yn dan ddaearol wedyn a’r is-orsaf ym Mhentir. Dyddiau cynnar yw hi ar y funud,ond rydym yn cynorthwyo llawer o dir feddianwyr er mwyn gwneud yn siwr, os bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen, yna ei fod yn amharu cyn lleied a phosib a eu busnesau.

Mae ein Asiantaeth gwerthu eiddo newydd sefydledig o dan arweiniad Huw Myfyr Gruffydd yn mynd o nerth i nerth, gyda gwerthiannau llwyddiannus wedi bod ar ambell i eiddo yn barod,a mwy o ymholiadau newydd yn dod yn ddyddiol. Mae’r farchnad ar y funud yn weddol sefydlog, gyda’r galw mwyaf am dai gwledig sydd yn cynnwys ychydig o aceri o dir ynghlwm a nhw.

Fel arall yr ydym fel cwmni yn brysur iawn yn cynorthwyo cleientiaid ar lawer o brosiectau sydd yn ymwneud a thir ac eiddo, boed hynny yn eu harwain trwy bryniant newydd, prosiectau ynni adnewyddadwy neu brisio ar gyfer anghenion treth ayyb, neu hawlio iawndal pan fydd cwmniau cyfleustodau angen mynediad ar eich eiddo ac yn creu difrod.

Os medrwn fod o gymorth i chwi ar rhyw agwedd o waith yn ymwneud a Thir neu Eiddo, yna dewch i gysylltiad. Mae gennym dím angerddol profiadol  sydd yn ymwneud ag ystod eang o waith ac yn fwy na pharod i gynorthwyo bob amser.

Am fwy o fanylion a rhifau cyswllt, ewch ar ein gwefan Baileys & Partners | Yr Arbenigwyr Tir ac Eiddo