Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi ein bod yn lansio ein gwefan newydd baileysandpartners.co.uk. Ar ôl ystyried mynd ati’n fewnol i ddiweddaru’r wefan, gwnaed y penderfyniad doeth i ofyn am arweiniad a chyngor gweithwyr proffesiynol. Rydym yn falch iawn gyda’r canlyniad ac yn gobeithio eich bod chithau hefyd?
Roeddem am anfon neges glir i egluro pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydyn ni i gyd yn gwybod mai’r allwedd i unrhyw berthynas dda yw cyfathrebu a gobeithio bod ein gwefan yn cyfleu’r neges yma trwy ddarparu manylion allweddol am y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig, gwybodaeth gyswllt ac erthyglau blog perthnasol sy’n procio’r meddwl – rydyn ni’n bobl go iawn ac yn hoffi cael sgwrs.
Bydd ein cleientiaid presennol a’n darpar gleientiaid yn dod o hyd i fanylion am ein gwasanaethau yn yr wybodaeth glir a geir yn yr adran beth rydym ni’n ei wneud. Bydd ein blogiau yn tynnu sylw at brosiectau a llwyddiannau astudiaethau achos yn ogystal â newyddion y diwydiant a datblygiadau busnes Baileys and Partners – tanysgrifiwch i’n blogiau yma!
Bydd y rhai ohonoch sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn dod o hyd i ddolenni i’n cyfrifon LinkedIn, Facebook, Twitter ac Instagram – wel, cyfrif Instagram Ed – da iawn Ed! Ceisiwn feithrin cysylltiadau cyfathrebu gyda’n cleientiaid presennol a’n darpar gleientiaid trwy roi cynnwys rheolaidd ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, cliciwch ar y dolenni i gadw llygad ar yr hyn yr ydym yn ei wneud!
Hoffem ddiolch i’n cydweithwyr, teulu, ffrindiau a chleientiaid am gefnogi busnes Baileys and Partners i greu’r wefan newydd yma. Yn olaf, hoffem ddiolch yn fawr iawn i Alwyn Jones yn Jerboa Media, cafodd Alwyn a’i dîm eu hargymell yn gryf gan Emma Whittle yn Insynch. Mae’r cyfuniad o fewnbwn Alwyn ac Emma tuag at brosiect ein gwefan wedi bod yn amhrisiadwy – mae’r ddau ohonoch yn haeddu canmoliaeth. Diolch.
I gysylltu ag un o dîm Baileys and Partners, edrychwch ar ein gwefan, e-bostiwch neu ffoniwch: 01341 241700. Rydym yn edrych ymlaen at siarad â chi.